Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Mai 2019
Amser:
09.02 -
14.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5517
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Hefin David AC Dawn Bowden AC Suzy Davies AC Siân Gwenllian AC Jayne Bryant AC (yn lle Jack Sargeant AC) |
Tystion: |
Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Karen Cornish, Llywodraeth Cymru Emma Gammon, Llywodraeth Cymru Jamie Gillies, Byddwch yn Rhesymol Cymru Sally Gobbett, Byddwch yn Rhesymol Cymru Andy James, Rhwydwaith Amddiffyniad Cyfartal Cymru Catriona Williams, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru Vivienne Laing, NSPCC Cymru Menna Thomas, Barnardo’s Katherine Shelton, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas, Comisiynydd Plant Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC. Roedd Jayne Bryant AC yn dirprwyo ar ei ran.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Byddwch yn Rhesymol Cymru.
3.2 Cytunodd i ddarparu nodyn am y canlynol:
· manylion y dystiolaeth y soniwyd amdani ynghylch effeithiau cosbi plant yn gorfforol ac yn anghorfforol;
· rhagor o fanylion am yr honiad bod yr amddiffyniad cosb resymol wedi cael ei ddefnyddio tair gwaith dros gyfnod o naw mlynedd yn Lloegr, gan gynnwys a oedd cyhuddiadau pelau wedi'u dwyn yn ystod adeg yr achosion unigol hynny a
·
rhagor o wybodaeth am y cyfraddau erlyn mewn
perthynas â chosb gorfforol yn Seland Newydd.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhwydwaith Amddiffyniad Cyfartal Cymru.
4.2 Cytunodd i ddarparu nodyn am y canlynol:
5.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Plant.
6.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y
sesiynau.
9.1 Oherwydd cyfyngiadau amser bydd y papur yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod wythnos nesaf.